Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Mehefin 2014 i'w hateb ar 25 Mehefin 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

1. Leanne Wood (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau i wella safonau addysgol yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0434(ESK)

 

2. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â dysgu rhan-amser? OAQ(4)0445(ESK)

 

3. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sut y mae'r Gweinidog yn gweithredu cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru i hyrwyddo dysgu fel gyrfa? OAQ(4)0441(ESK)W

 

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod canllawiau gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu mewn ysgolion? OAQ(4)0437(ESK)

 

5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion? OAQ(4)0440(ESK)

 

6. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ailysgrifennu’r Dyfodol: codi uchelgais a chyrhaeddiad yn ysgolion Cymru? OAQ(4)0450(ESK)

 

7. Sandy Mewies (Delyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella lefelau cyrhaeddiad ymhlith disgyblion o ardaloedd o amddifadedd? OAQ(4)0446(ESK)

 

8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa wersi y mae Her Ysgolion Cymru wedi eu dysgu o raglen Her Llundain i wella perfformiad disgyblion yng Nghymru? OAQ(4)0436(ESK)

 

9. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu gwyddorau mewn ysgolion? OAQ(4)0447(ESK)

 

10. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido addysg uwch? OAQ(4)0443(ESK)W

 

11. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o fanteision Twf Swyddi Cymru? OAQ(4)0442(ESK)

 

12. Leighton Andrews (Rhondda):  A wnaiff y Gweinidog nodi polisi Llywodraeth Cymru ar reoli prifysgolion preifat yng Nghymru? WAQ(4)0435(ESK)

 

13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ysgolion ffydd yng Nghymru? OAQ(4)0433(ESK)

 

14. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ganllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0439(ESK)W

 

15. Christine Chapman (Cwm Cynon): Sut y gall Llywodraeth Cymru wella sgiliau cyflogadwyedd pobl o Gwm Cynon nad ydynt mewn gwaith na hyfforddiant? OAQ(4)0444(ESK)

 

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

1. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael am ddyfodol yr asiantaethau cefnffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)0432(EST)W

 

2. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y gellir eu cymryd i wella diogelwch ar yr A44? OAQ(4)0434(EST)W

 

3. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau yn y sector ynni adnewyddadwy? OAQ(4)0433(EST)W

 

4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd? OAQ(4)0439(EST)W

 

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer ehangu darpariaeth band eang yng Nghymru? OAQ(4)0431(EST)

 

6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnoaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru? OAQ(4)0427(EST)

 

7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau manteision economaidd mwyaf posibl i Ddwyrain De Cymru yn sgîl yr uwchgynhadledd NATO? OAQ(4)0430(EST)

 

8. Russell George (Sir Drefaldwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i feithrin ehangu economaidd yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)0435(EST)

 

9. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafnidiaeth integredig yng Nghaerdydd? OAQ(4)0440(EST)W

 

10. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth Cymru? OAQ(4)0438(EST)

 

11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu adroddiad cynnydd ar Ardaloedd Menter yng Nghymru? OAQ(4)0429(EST)

 

12. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu gweithredu cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru i ddatblygu system drafnidiaeth integredig i Gymru? OAQ(4)0436(EST)W

 

13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0426(EST)

 

14. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau arfaethedig i gynllun y Bathodyn Glas? OAQ(4)0437(EST)

 

15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i wasanaethau bws lleol yng Nghymru? OAQ(4)0428(EST)